Yn ôl

Llesiant Delta yn ehangu ei fflyd gyda Cherbydau Hygyrch i Gadeiriau Olwyn i gefnogi cludiant 24/7 i gleifion

Mae Llesiant Delta wedi cryfhau ei fflyd ymateb cymunedol drwy ychwanegu Cerbyd Hygyrch i Gadeiriau Olwyn i helpu i gefnogi unigolion agored i niwed a gwella llif cleifion ar draws Sir Gaerfyrddin. 

Bydd ail gerbyd hefyd yn cael ei ychwanegu yn ddiweddarach eleni, gan ehangu capasiti ymhellach.

Mae'r buddsoddiad yn cefnogi partneriaeth newydd gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i ddarparu gwasanaeth cludiant 24/7 i gleifion, fydd yn weithredol rhwng dydd Llun a dydd Sul.

Bydd y gwasanaeth yn cael ei ddarparu gan dîm ymateb cymunedol Llesiant Delta, gan helpu i ddarparu gwasanaeth cludiant diogel a phrydlon ar gyfer:

  • Cleifion sy'n teithio rhwng ysbytai
  • Cleifion sy'n mynd i apwyntiadau iechyd
  • Eitemau clinigol gan gynnwys samplau gwaed a meddyginiaethau


Mae'r Cerbyd Hygyrch i Gadeiriau Olwyn newydd yn sicrhau y gall cleifion sy'n defnyddio cadeiriau olwyn deithio'n gyfforddus ac yn ddiogel, ac mae'r cerbydau'n cynnwys popeth sydd ei angen i gefnogi ystod o anghenion symudedd.

Mae'r gwasanaeth hwn yn gweithredu drwy Un Pwynt Mynediad Hywel Dda, gan sicrhau cludiant cydgysylltiedig ac ymatebol i gleifion cymwys. Mae'n chwarae rhan hanfodol wrth wella llif cleifion, cefnogi rhyddhau o'r ysbyty, lleihau oedi, a sicrhau bod pobl yn derbyn y gofal cywir yn y lle iawn ar yr adeg iawn.

Dywedodd Sarah Poulton, Rheolwr Ymateb: "Rydyn ni wedi ymrwymo i wella'r gefnogaeth rydyn ni'n ei darparu i gymunedau ledled Sir Gaerfyrddin. Bydd cyflwyno ein Cerbydau Hygyrch i

Gadeiriau Olwyn newydd yn sicrhau y gallwn ymateb yn fwy effeithiol i anghenion cleifion wrth gefnogi'r bwrdd iechyd i ddarparu gofal diogel, amserol sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn.”

Mae'r gwasanaeth yn rhan o waith cydweithredol parhaus rhwng Llesiant Delta a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i wella mynediad at wasanaethau hanfodol, lleihau pwysau ar dimau clinigol, a chefnogi canlyniadau gwell i unigolion.

Dywedodd Andrew Carruthers, Prif Swyddog Gweithredu Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Rwy'n falch bod Llesiant Delta wedi caffael Cerbyd Hygyrch i Gadeiriau Olwyn newydd. Bydd hyn yn gwneud cymaint o wahaniaeth i'r cleifion hynny sy'n defnyddio cadeiriau olwyn ac sydd angen mwy o gymorth i gael mynediad at ofal iechyd. Mae ein digwyddiadau ymgysylltu diweddar wedi dangos pa mor bwysig yw cludiant addas, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig yn Hywel Dda, felly mae hyn yn newyddion da iawn.”

Mae Llesiant Delta yn Gwmni Masnachu Awdurdod Lleol sy'n eiddo i Gyngor Sir Caerfyrddin, sy'n darparu technoleg gynorthwyol, monitro ataliol a gwasanaethau ymateb er mwyn cefnogi unigolion ar draws Cymru i fyw'n annibynnol ac yn ddiogel gartref.