12 Rhagfyr 2023
Llesiant Delta yn ennill gwobr gofal genedlaethol fawreddog
Mae Llesiant Delta wedi ennill gwobr gofal genedlaethol fawreddog am ei waith yn cefnogi cleifion yn y gymuned, gan atal derbyniadau diangen i'r ysbyty.
Mae'r cwmni, sy'n darparu technoleg gynorthwyol a monitro a chymorth rhagweithiol i bobl hŷn ac agored i niwed i fyw yn fwy annibynnol, wedi ennill y Wobr 'Best Initiative in Care' yng ngwobrau Caring UK.
Mae ei wasanaeth ymateb cymunedol 24 awr a'r Fyddin Las yn yr ysbyty yn gweithio'n agos gyda Bwrdd Iechyd Hywel Dda a Chyngor Sir Caerfyrddin i gefnogi preswylwyr, drwy eu helpu i ddychwelyd adref o'r ysbyty neu osgoi cael eu derbyn i'r ysbyty.
Y gwasanaeth ymateb yw'r cyntaf o'i fath i gael ei gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru, gan gefnogi cleifion i ddychwelyd adref o'r ysbyty drwy ddarparu gofal cartref am gyfnod byr hyd nes y bydd darparwyr ail-alluogi neu ddarparwyr hirdymor ar gael. Mae hefyd yn cynnig cymorth gofal cymdeithasol brys i deuluoedd sy'n ei chael hi'n anodd gofalu am eu hanwyliaid wrth aros am asesiadau pellach, cynnydd yn y ddarpariaeth gofal neu sydd angen cymorth ychwanegol yn y tymor byr.
Mae cleientiaid yn cael technoleg gynorthwyol, fel llinellau cymorth, fel bod ganddynt fynediad at ganolfan fonitro 24/7 Llesiant Delta, ac os oes unrhyw bryderon, dirywiad sydyn, neu eu bod yn cyrraedd pwynt argyfwng, bydd y tîm ymateb yn cael ei anfon ar unwaith.
Mae'r staff wedi cael hyfforddiant llawn o ran cymorth cyntaf a chymorth bywyd sylfaenol, a gallant gynorthwyo gyda holl anghenion gofal personol, paratoi prydau bwyd a gweinyddu meddyginiaeth, er enghraifft, yn ogystal â helpu gyda siopa bwyd neu ddarparu gwasanaeth cadw cwmni ar fyr rybudd.
Mae gwobrau Caring UK, a drefnir gan Script Events ar y cyd â chylchgrawn blaenllaw'r diwydiant gofal Caring UK, ynghyd â chefnogaeth gan y prif noddwr Virgin Money, yn cydnabod rhagoriaeth a chyflawniad yn y sector gofal ledled y DU.
Mae Llesiant Delta yn Gwmni Masnachu Awdurdod Lleol ym mherchnogaeth lwyr Cyngor Sir Caerfyrddin. Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, y Cynghorydd Jane Tremlett: “Llongyfarchiadau i gwmni Llesiant Delta am ennill y wobr genedlaethol hon, rwy’n falch iawn bod y tîm wedi cael ei gydnabod am ei holl waith caled a'i ymrwymiad.
“Mae Llesiant Delta yn gweithio'n agos gyda'r bwrdd iechyd a gwasanaethau cymdeithasol i gefnogi anghenion preswylwyr gartref nes bod ailalluogi neu becyn gofal hirdymor ar gael, gan helpu i atal derbyniadau diangen i'r ysbyty ac, yn bwysicaf oll, gwneud gwahaniaeth enfawr i ansawdd bywyd preswylwyr ledled Sir Gaerfyrddin.
Llongyfarchiadau mawr i bawb."