18 Mawrth 2025
Llesiant Delta yn ennill y wobr Urddas mewn Gofal yng Ngwobrau Gofal Prydain - Cenedlaethol
Mae cwmni Llesiant Delta wedi cael ei gydnabod ar lwyfan cenedlaethol ar ôl ennill y wobr Urddas mewn Gofal yn rowndiau terfynol Gwobrau Gofal Prydain.
Mae'r wobr yn dathlu ymrwymiad rhagorol i sicrhau urddas, parch a gofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn ar gyfer y rhai sydd angen cymorth. Fel gwasanaeth brys 24 awr, mae'r cwmni'n darparu cymorth hanfodol i breswylwyr agored i niwed a hŷn yn ystod rhai o'r adegau mwyaf heriol yn eu bywydau.
Mae dull Llesiant Delta o ofalu yn seiliedig ar urddas, gan sicrhau bod pob unigolyn y mae'n ei gefnogi yn cael ei drin â thosturi, parch ac ymreolaeth. Mae'r tîm yn gweithio'n ddiflino i roi grym i unigolion, drwy eu galluogi i wneud penderfyniadau gwybodus am eu gofal a chadw rheolaeth dros eu bywydau.
Cwmni Masnachu Awdurdod Lleol ym mherchnogaeth Cyngor Sir Caerfyrddin, mae Llesiant Delta yn darparu technoleg gynorthwyol a monitro a chymorth rhagweithiol i gefnogi byw'n annibynnol, yn ogystal â gwasanaeth ymateb cymunedol 24/7 ar gyfer cymorth gofal cymdeithasol mewn argyfwng. Mae'r gwasanaeth yn helpu preswylwyr i osgoi derbyniadau diangen i'r ysbyty ac yn cynorthwyo cleifion i fynd adref o'r ysbyty hyd nes bod gofal ail-alluogi neu ofal hirdymor ar waith.
Dywedodd y Cynghorydd Jane Tremlett, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: “Rwyf wrth fy modd bod Llesiant Delta wedi derbyn y gydnabyddiaeth genedlaethol hon; mae urddas yn ganolog i bopeth a wnawn.
“Mae'r wobr hon yn dyst i ymroddiad, proffesiynoldeb a thosturi'r tîm, gan sicrhau bod y rhai rydyn ni'n eu cefnogi bob amser yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u parchu.
“Rwy'n hynod o falch o'r cyflawniad hwn a'r gwahaniaeth mae’r tîm yn ei wneud i fywydau pobl bob dydd.”
Mae dull Llesiant Delta sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn yn sicrhau bod gofal wedi'i deilwra i anghenion unigryw pob unigolyn. Mae'r tîm wedi'i hyfforddi i ddarparu gwasanaethau sy'n hyrwyddo annibyniaeth a llesiant, ac ar yr un pryd yn cynnig cefnogaeth hyblyg, ymatebol ac empathig. Mae ymrwymiad y sefydliad i welliant parhaus ac arfer adfyfyriol wedi meithrin gweithlu sydd wedi ymrwymo'n llawn i gynnal urddas pob unigolyn y mae'n ei wasanaethu.
Mae Gwobrau Gofal Prydain yn dathlu rhagoriaeth ar draws pob maes o'r sector gofal, gan gydnabod unigolion a thimau sy'n mynd yr ail filltir i ddarparu gofal a chymorth rhagorol ledled y DU.