29 Tachwedd 2022
Mae Llesiant Delta wedi bod yn gweithio gyda Phrifysgol Abertawe i helpu i brofi gorchudd rhad sy'n cynhesu seddau, a all gadw oedolion hŷn sy'n agored i niwed yn gynnes drwy bwyso botwm.
Cafodd y ddyfais B-Warm ei hysbrydoli gan ŵr ymroddedig a oedd am helpu i ofalu am ei wraig a oedd yn dioddef o arthritis.
Yn ôl Martin Lewis, sef cyfarwyddwr Homeglow Products ym Mrynbuga, roedd ei ddiweddar wraig yn teimlo bod seddau cynnes eu car yn lleihau ei phoen i'r fath raddau roedd hi am ddod â nhw i mewn i'r tŷ. Felly, gwnaeth Mr Lewis ddyfeisio gorchudd a chynheswr seddau y gellir ei osod ar gadair gyffredin a'i addasu â phanel rheoli syml.
Mae ef bellach wedi bod yn cydweithio â Chanolfan Technoleg Gofal Iechyd Prifysgol Abertawe (HTC) i archwilio pa mor fuddiol yw'r ddyfais i oedolion hŷn, yn enwedig y rhai sy'n byw ar eu pennau eu hunain â chyflyrau iechyd isorweddol neu broblemau symudedd.
Cynhaliodd y Ganolfan astudiaeth i werthuso llesiant a phoen cyhyrysgerbydol cyfranogwyr dros gyfnod o fis o ddefnyddio'r ddyfais.
Er mwyn cynnal yr ymchwil hon, gweithiodd y tîm gyda Llesiant Delta o Lanelli a ddaeth o hyd i gleientiaid addas – rhai a oedd yn byw yn annibynnol ond â chymorth – ac yna aethant ati i gyflenwi a gosod y dyfeisiau B-Warm a chynorthwyo â'r gwaith o gasglu data. Darparwyd hanner y dyfeisiau B-Warm a ddefnyddiwyd gan y cwmni ynni Cadent Gas.
Hefyd, cefnogwyd yr astudiaeth gan arbenigedd y Ganolfan Ymchwil Heneiddio a Dementia (CADR) ac iLab.
Dywedodd Dr Bethan Thomas, Uwch-dechnolegydd Arloesi y Ganolfan Technoleg Gofal Iechyd: “Mae cynnal ein tymheredd mewnol o fewn gradd neu ddwy o 37 gradd yn hanfodol o ran cael corff iach. Ond wrth inni fynd yn hŷn mae'n anoddach inni reoli gwres ein cyrff, ac mae hyn yn rhoi straen ychwanegol ar y system gardiofasgwlaidd, sydd hefyd yn gallu bod dan fygythiad oherwydd henaint neu sawl salwch arall.”
Cysylltodd Mr Lewis ag arbenigwyr y Ganolfan Technoleg Gofal Iechyd i gynnal astudiaeth a fyddai'n asesu effaith y ddyfais ar ba mor gyfforddus oedd y defnyddwyr ac ar eu llesiant, yn ogystal â'r manteision corfforol a meddyliol posibl.
Roedd wedi gweithio o'r blaen gyda National Energy Action, elusen tlodi tanwydd genedlaethol sy'n gweithio ar draws Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, i astudio os gall y B-Warm dorri costau gwresogi cartrefi'n sylweddol.
Dywedodd Dr Ffion Walters, y Technolegydd Arloesi ar gyfer y Ganolfan Technoleg Gofal Iechyd: “Defnyddiodd Llesiant Delta ei berthynas â'i gleientiaid i recriwtio cyfranogwyr. Cyfrannodd HomeGlow a Cadent Gas 100 o ddyfeisiau B-Warm. Yna gwnaethom asesu'r newidiadau o ran llesiant a phoen gan ddefnyddio holiadur strwythuredig a gwblhawyd gan gyfranogwyr cyn ac ar ôl iddynt ddefnyddio'r cynheswr seddau dros gyfnod o fis."
Roedd yr adborth gan y cyfranogwyr yn gadarnhaol dros ben. Datgelodd y canfyddiadau pwysig o'r holiadur fod 75 y cant o'r gwirfoddolwyr wedi datgan gwelliant o ran eu llesiant goddrychol ac roedd 73.9 y cant wedi datgan bod lefel eu poen wedi lleihau.
Dywedodd Paul Faulkner, Pennaeth Technolegau Llesiant Delta:
“Roeddem yn falch iawn o weithio gyda Phrifysgol Abertawe ar yr astudiaeth hon. Mae'r adborth rydym wedi'i gael gan ein cleientiaid am y dyfeisiau B-Warm wedi bod yn hynod gadarnhaol, a bellach rydym yn ceisio prynu'r rhain fel rhan o'n pecyn cymorth o dechnolegau cynorthwyol.
“Mae ein pecynnau cymorth wedi'u teilwra ar gyfer anghenion penodol unigolyn i'w helpu i fyw'n annibynnol gartref am gyhyd â phosibl. Rydym yn ymdrechu'n barhaus i ddatblygu'r technolegau diweddaraf a fydd yn cefnogi pobl hŷn ac agored i niwed i reoli eu hiechyd a'u llesiant gartref, gan ddarparu ystod o atebion arloesol yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol ar yr un pryd.”
Dywedodd Mr Lewis: "Datblygais y ddyfais B-Warm er mwyn helpu Audrey, fy niweddar wraig, i gadw'n gynnes mewn bwthyn eithaf oer a llaith. Ar ôl iddi farw yn 2016 ac ar ôl sylweddoli'r manteision ffisiolegol ac o ran arbed ynni, roeddwn yn teimlo y byddai ond yn briodol i hyrwyddo ac i feithrin enw da'r cynnyrch, a hefyd gwnaeth hynny fy helpu i ymdopi â'm colled drwy gadw'n brysur."
Mae ef bellach yn gobeithio y bydd yr ymchwil yn darparu tystiolaeth bwysig ychwanegol ynghylch manteision ei gynnyrch o ran iechyd.
Dywedodd Mr Lewis: “Mae B-Warm eisoes wedi bod yn llwyddiannus iawn – rydym bellach yn gweithgynhyrchu tair gwaith y lefel wreiddiol ac mae'r argyfwng ynni presennol yn golygu nad oes bron dim ar ôl o’n harcheb stoc ddiweddaraf. Gobeithio bydd y cydweithrediad â Phrifysgol Abertawe yn cadarnhau manteision seicolegol a ffisiolegol B-Warm i'r rhai sydd â phroblemau iechyd cronig neu dros dro."
Mae Llesiant Delta yn Gwmni Masnachu Awdurdod Lleol sy'n eiddo i Gyngor Sir Caerfyrddin, ac mae'n darparu technoleg gynorthwyol a monitro rhagweithiol i gefnogi pobl hŷn ac agored i niwed i fyw yn fwy annibynnol. Mae'n gweithio'n agos iawn gyda phartneriaid iechyd a gofal cymdeithasol lleol a chenedlaethol i ddarparu gwasanaethau Technoleg Galluogi Gofal i gefnogi cleifion sy'n gadael yr ysbyty yn ogystal â'r sawl sydd yn y gymuned. Mae hefyd yn gweithio gyda busnesau a'r byd academaidd i wneud ymchwil i weld Technoleg Galluogi Gofal yn datblygu ymhellach mewn gofal prif ffrwd ac o ran datblygu technolegau blaengar ac arloesol.
Mae'r Ganolfan Technoleg Gofal Iechyd, sy'n rhan o Ysgol Feddygaeth y Brifysgol, wedi ymrwymo i sicrhau y defnyddir ymchwil, arloesedd ac arbenigedd i ddatblygu gwell triniaethau a dulliau atal ar gyfer gwahanol glefydau. Mae'n rhan o'r rhaglen Cyflymu gwerth £24 miliwn sydd ar waith ar draws Cymru gyfan ac a ariannwyd ar y cyd gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, drwy Lywodraeth Cymru, prifysgolion, Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, a byrddau iechyd.