09 Ionawr 2025
Llesiant Delta yn ymuno â Chanolfan Byw'n Dda newydd yng Nghaerfyrddin
Mae Llesiant Delta yn falch o fod yn rhan o Ganolfan Byw'n Dda newydd yng Nghaerfyrddin, cydweithredfa unigryw sydd â'r nod o ddod â gwasanaethau iechyd a llesiant hanfodol ynghyd o dan yr un to.
Bydd staff Llesiant Delta yn gweithio yn y ganolfan dri diwrnod yr wythnos - dydd Llun, dydd Mawrth a dydd Gwener - rhwng 9am a 5pm, er mwyn galluogi'r gymuned i gael gwell mynediad at ei wasanaethau cymorth.
Yn hwb i ofal a chymorth cydgysylltiedig, mae'r Ganolfan Byw'n Dda yn cynnwys mwy na 16 sefydliad partner ar un safle ar dir Parc Dewi Sant.
Dan arweiniad elusen datblygu cymunedol rhanbarthol PLANED, bydd y ganolfan yn darparu ystod o wasanaethau gan gynnwys cymorth iechyd meddwl, gofal dementia, addysg, celf, dosbarthiadau ymarfer corff a llawer mwy.
Gan y bydd staff yn gweithio ar y safle, bydd Llesiant Delta yn cyfrannu at genhadaeth y ganolfan o gynnig dull di-dor a chyfannol o ran iechyd a llesiant cymunedol, gan alluogi unigolion i gael mynediad at nifer o wasanaethau mewn un lleoliad, a'u grymuso i fyw bywydau iachach a mwy annibynnol.
Dywedodd Rebecca Davies, Pennaeth Gweithrediadau Llesiant Delta: "Rydym yn falch iawn o fod yn rhan o'r gydweithredfa arloesol hon. Bydd gweithio yn y Ganolfan Byw'n Dda dri diwrnod yr wythnos yn ein helpu i ddarparu ein gwasanaethau mewn ffordd fwy hygyrch a chydgysylltiedig, ochr yn ochr â sefydliadau o'r un anian. Mae'n ymwneud â gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl yn Sir Gaerfyrddin, ac rydym yn falch o chwarae ein rhan.”
Cwmni Masnachu Awdurdod Lleol ym mherchnogaeth Cyngor Sir Caerfyrddin, mae Llesiant delta yn darparu technoleg gynorthwyol a monitro a chymorth rhagweithiol i bobl hŷn a phobl agored i niwed, yn ogystal â darparu un pwynt mynediad at wybodaeth a chyngor ynghylch iechyd a gofal cymdeithasol yn Sir Gaerfyrddin. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i llesiantdelta.org.uk.
I gael rhagor o wybodaeth am y Ganolfan Byw'n Dda cysylltwch â Lucy Cummings drwy e-bostio lucy.cummings@planed.org.uk neu ffonio 07789 793228 / 01834 860965.