Yn ôl

Mae cleient CONNECT Sir Gaerfyrddin yn dweud bod y gwasanaeth yn darparu "cymorth amhrisiadwy" yn dilyn degawd o gam-drin domestig, ac wedi achub ei bywyd

Cafodd *Sarah, sy'n 52 oed, ei chyfeirio at wasanaeth CONNECT ym mis Ebrill 2020 am Asesiad Llesiant cychwynnol.

Fel rhan o'r gwasanaeth, derbyniodd alwadau llesiant cyson, mynediad i dîm ymateb
cymunedol 24 awr y dydd, cymorth digidol ac offer gofal trwy gymorth technoleg gan ddarparu cymorth dydd a nos os oedd angen.

Roedd y fam i ddau yn un o filoedd o breswylwyr bregus i Lesiant Delta gysylltu â nhw yn dilyn derbyn llythyr ynghylch gwarchod gan Lywodraeth Cymru, er mwyn sicrhau bod ganddi bopeth oedd ei angen arni yn ystod pandemig Covid wrth iddi warchod ei hun.

Yn ystod ei galwadau llesiant wythnosol, cafodd ei chyflwyno i Louise, Swyddog Llesiant Cymunedol y Tîm.

Bu Sarah yn hunanynysu am sawl wythnos yn ystod Covid a dywedodd wrth Louise ei bod hi wedi bod yn teimlo'n "unig iawn" yn ystod yr amser hwn a bod y pandemig yn achosi "gorbryder mawr" iddi a oedd o ganlyniad yn effeithio ar ei hiechyd meddwl.

Wrth sôn am ei thrawma personol a'i meddyliau yn ystod ei galwadau llesiant, diolchodd i Louise am achub ei bywyd ac ychwanegodd,

 

"Mae wedi cymryd amser hir i mi siarad yn agored a rhannu'r trasiedïau personol hyn ac rwy'n gwerthfawrogi'n fawr y gwasanaeth a ddarperir gan Lesiant Delta."

 

Yn ystod un o'r galwadau llesiant, dywedodd Sarah nad oedd ganddi unrhyw fwyd yn ei fflat, na llaeth i wneud cwpanaid o de. Yn dilyn yr alwad, trefnodd Louise fod parsel bwyd hanfodol yn cael ei anfon i'w chartref ar unwaith ac am hyn, roedd hi'n hynod o ddiolchgar.

Er mwyn sicrhau nad oedd Sarah yn teimlo'n ynysig mwyach yn ystod cyfyngiadau symud Covid, wrth iddi gael ei gwahanu wrth ei theulu a'i ffrindiau, trefnodd Louise iddi gael llechen, fel rhan o'r cymorth digidol a ddarperir drwy'r gwasanaeth CONNECT.

Roedd cael llechen wedi sicrhau ei bod hi'n gallu cadw mewn cysylltiad gyda'i
merch a oedd y byw yn Lloegr.

Cafodd daith rithwir o gartref newydd ei merch a chwrdd â'i chi newydd drwy'r llechen. Roedd hyn yn golygu cymaint iddi. Rhoddodd hwb mawr i'w hysbryd a'i llesiant.

 

Meddai Sarah, "Rwy'n ddiolchgar iawn i Lesiant Delta ac i Louise am yr holl gymorth rwyf wedi'i gael yn ystod yr amserau anodd hyn, yn enwedig yn ystod y cyfnod o warchod fy hun."

*Mae’r enwau wedi'u newid