Yn ôl

Mae merch un o gleientiaid CONNECT Ceredigion wedi disgrifio'r gefnogaeth a ddarperir drwy'r gwasanaeth 24/7 fel "Bendith" i'w mam, a oedd wedi cwympo sawl gwaith gartref.

*Cafodd mam Lowri, sy'n 70 oed, ei chyfeirio at wasanaeth CONNECT ym mis Mai 2021, gan un o Swyddogion Technoleg Llesiant Delta a oedd wedi ymweld â'i chartref i osod offer Gofal trwy Gymorth Technoleg ychwanegol, gan ei bod wedi cwympo sawl gwaith gartref.

Tra oedd yno, rhannodd Lowri ei phryderon am ei mam gan ei bod yn cwympo'n fwy aml yn ddiweddar.

Yna, dywedodd y Swyddog Technoleg wrthi am y gwasanaeth CONNECT a pha gymorth y gallai'r teulu ei gael, gan gynnwys mynediad i Dîm Ymateb Cymunedol 24/7 i gynorthwyo gydag unrhyw gwympiadau, galwadau llesiant rheolaidd, cymorth digidol ac offer Gofal trwy
Gymorth Technoleg wedi'u teilwra i anghenion penodol ei mam.

 

Dywedodd Lowri, "Ar ôl clywed am y gwasanaeth CONNECT, meddylion ni yn syth y byddai hyn yn opsiwn gwych i Mam, felly penderfynon ni ymuno."

 

Fel rhan o gymorth offer Gofal trwy Gymorth Technoleg CONNECT, mae mam Lowri wedi cael synhwyrydd cwympiadau y gallai ei wisgo ar ei harddwrn.

Mae'n gwisgo'r ddyfais bob dydd gan roi tawelwch meddwl iddi hi ei hun a'r teulu bod cymorth ar gael, pe bai ei angen arni, ddydd a nos.

Dywedodd Lowri, "Pan mae mam wedi cwympo yn y gorffennol, mae tuedd iddi fwrw ei phen a fyddai hi ddim yn cofio pwyso ei larwm gwddf. Gan fod ganddi synhwyrydd cwympiadau, mae hyn yn golygu y bydd yn rhoi gwybod yn awtomatig ei bod hi wedi cwympo a bydd cymorth yn cael ei anfon ati ar unwaith, gan roi tawelwch meddwl i ni."

 

Dywedodd Lowri mai un o'r pethau gorau am y gwasanaeth CONNECT yw'r ffaith ei fod wedi galluogi ei mam i barhau i fyw'n annibynnol gartref.

 

"Mae fy mam wastad wedi bod yn fenyw annibynnol," esboniodd Lowri. “Pe bai hi'n gorfod gadael ei chartref, ni fyddai'n goroesi.

Felly, mae cael y gwasanaeth hwn wedi golygu ei bod yn gallu aros gartref i fyw'n annibynnol. Fel teulu, allwn ni ddim diolch digon i Delta CONNECT am y lefel uchel o wasanaeth a ddarperir a'r sicrwydd y mae'n ei roi i ni i gyd. Rydym yn ddiolchgar iawn.”

*Mae’r enwau wedi'u newid