23 Gorffennaf 2024
Mae menter partneriaeth newydd yn helpu pobl yn Sir Gaerfyrddin i gael cam ar yr ysgol yrfaol ar gyfer gofal
Mae Cymunedau am Waith Sir Gaerfyrddin+ wedi bod yn gweithio gyda nifer o bartneriaid, darparwyr hyfforddiant a chyflogwyr i greu llwybr i ofal.
Y nod yw, codi ymwybyddiaeth o'r amrywiaeth o swyddi sydd ar gael ar draws y sector. A chefnogi unigolion nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant i gael troed yn y drws trwy roi'r wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen arnynt.
Trefnwyd ymweliadau byd gwaith i gyflogwyr gan gynnwys Llesiant Delta a Pherthyn, yn ogystal â sgyrsiau gan We Care Wales a PLANED.
Cafodd y cyfranogwyr gyfarwyddyd a chefnogaeth hefyd wrth ysgrifennu ceisiadau am swyddi a CVs, technegau cyfweld ac adeiladu hyder.
Cynhaliwyd digwyddiad dathlu yn Neuadd y Dref Llanelli ar ddiwedd y cwrs i longyfarch y cyfranogwyr ar gwblhau'n llwyddiannus. Byddant yn parhau i gael eu cefnogi gan Gymunedau am Waith+ wrth iddynt geisio cyflogaeth.
Hoffai Ryan Harries, 21 oed o Ben-bre, ddilyn gyrfa fel gweithiwr cymorth yn y gymuned, dywedodd: "Roedd y cwrs yn dda iawn, roedd yn agoriad llygad, roedd cymaint nad oeddwn yn ei wybod am ofal, faint o rolau oedd yno, dim ond yr holl beth oedd mor newydd i mi, ac fe wnes i fwynhau pob tamaid ohono yn fawr."
Mae Cymunedau am Waith+ yn brosiect a ariennir gan Lywodraeth Cymru a ddarperir gan Gyngor Sir Caerfyrddin sy'n darparu cymorth, arweiniad a hyfforddiant cynghori arbenigol i helpu i chwalu unrhyw rwystrau i gyflogaeth y gallai pobl a chymunedau eu hwynebu.
Dywedodd y Cynghorydd Jane Tremlett, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: "Mae hon yn fenter wych i gefnogi pobl yn ein cymunedau sy'n chwilio am yrfa mewn gofal cymdeithasol trwy roi cipolwg iddynt ar y gwahanol rolau sydd ar gael yn ogystal â'r sgiliau a'r priodoleddau sydd eu hangen.
"Fel cyngor, mae gennym nifer o brosiectau cyffrous ar y gweill i gefnogi pobl sydd am ddilyn gyrfa yn y sector gofal, gan gynnwys ein Hacademi Gofal sy'n rhoi cyfle i ymgeiswyr weithio ac astudio ar gyfer y cymwysterau sydd eu hangen arnynt i ddod yn weithwyr cymdeithasol y dyfodol."
Mae Llesiant Delta yn gwmni masnachu awdurdodau lleol sy'n darparu technoleg gynorthwyol a monitro a chymorth rhagweithiol i helpu pobl hŷn a bregus i fyw'n annibynnol yn eu cartrefi cyhyd â phosibl.
Dywedodd y Pennaeth Gweithrediadau, Rebecca Davies: "Roeddem yn falch iawn o fod yn rhan o'r fenter hon i godi ymwybyddiaeth o'r cyfleoedd gwaith amrywiol sydd ar gael ledled y diwydiant gofal, ac yn benodol, yr ystod o swyddi a ddarparwn sydd efallai'r mathau llai traddodiadol o rolau sy'n gysylltiedig â gyrfa mewn gofal.
"Mae hyn yn cynnwys ein swyddogion ymateb sy'n cael eu hanfon i gynorthwyo mewn argyfwng, ein tîm gosod TEC a fydd yn ymweld â chartrefi i osod llinellau achub ac offer arall, ein swyddogion lles sydd wedi'u lleoli yn yr ysbytai, a'n cynghorwyr canolfannau monitro sy'n ymateb i alwadau brys 24/7 365 diwrnod o'r flwyddyn, a mwy.
"Roeddem yn falch iawn o gynnal ymweliad yn y gweithle er mwyn i'r cyfranogwyr gael cipolwg gwerthfawr ar yr hyn a wnawn, a gweld drostynt eu hunain pa mor werthfawr y gall gyrfa mewn gofal fod. Hoffem ddymuno pob lwc iddynt ar gyfer y dyfodol pa bynnag lwybr y maent yn ei ddewis."
Dywedodd Karen Thomas, tiwtor gyda phrosiect Multiply fel rhan o'r cwrs Gofal 24: "Roedd Coleg Sir Gâr yn falch iawn o fod wedi gallu cydweithio gyda Chymunedau am Waith+. Rydym yn dymuno'r gorau i Tanya, Ryan a Danielle wrth chwilio am waith, ac edrychwn ymlaen at gefnogi mwy o ddysgwyr i gael gwaith fis nesaf."