16 Chwefror 2023
Prosiect Cartref yn Gyntaf yn ennill Tystysgrif Rhagoriaeth iESE
Mae prosiect arloesol newydd sy'n helpu cleifion yn Sir Gaerfyrddin i dderbyn y gofal y maent ei angen mor agos i gartref â phosibl wedi ennill Tystysgrif Rhagoriaeth iESE yng Ngwobrau Trawsnewid y Sector Cyhoeddus 2023.
Derbyniodd y project y clod oherwydd safon ragorol y gwaith mae'r tîm wedi ei ddangos yn ystod y cyfnod heriol iawn y flwyddyn ddiwethaf.
Gan gydweithio'n agos, mae Llesiant Delta, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Cyngor Sir Caerfyrddin ac Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn rhan o dîm amlddisgyblaeth sy’n darparu gofal canolraddol, sef y gofal sydd ei angen arnoch ar ôl mynd i'r ysbyty neu i osgoi mynd i'r ysbyty.
Mae'r tîm yn gweithredu dull 'cartref yn gyntaf' o ran helpu pobl trwy gyfnod o adfer ac asesu. Yn ystod y 12 wythnos gyntaf o weithredu, helpodd y tîm 179 o bobl i ddychwelyd o'r ysbyty i'w cartrefi.
Mae tîm ymateb cyflym Llesiant Delta yn cefnogi cleifion i ddychwelyd adref o'r ysbyty drwy ddarparu cymorth gofal cymdeithasol am gyfnod byr hyd nes y gellir cael darparwyr ailalluogi neu ddarparwyr hirdymor.
Gan weithio gyda swyddogion llesiant cymunedol Delta yn yr ysbytai - neu'r fyddin las fel y cânt eu hadnabod - gyda'i gilydd maent yn sicrhau y gellir rhyddhau cleifion cyn gynted â phosibl drwy ddarparu cymorth hanfodol i atal derbyniadau i'r ysbyty y gellir eu hosgoi, rhyddhau gwelyau mewn ysbyty, rhyddhau amser gwerthfawr staff, cynnal llif ac osgoi bod cleifion sy'n ffit yn feddygol yn parhau yn yr ysbyty am gyfnod hirach.
Mae'r tîm hefyd yn cynnig ymateb brys neu wasanaeth pontio ar gyfer teuluoedd sy'n ei chael hi'n anodd gofalu am eu hanwyliaid wrth aros am asesiadau pellach, cynnydd yn y ddarpariaeth gofal neu sydd angen cymorth gofal cymdeithasol ychwanegol yn y tymor byr. Os oes unrhyw bryderon ynghylch gofal yn methu, dirywiad sydyn, argyfyngau neu bryderon ynghylch lefel y gofal sydd ei angen, bydd y tîm Ymateb Cyflym 24/7 yn cael ei anfon i gynnig cymorth yn ystod y cyfnod hwn.
Nod hyn yw cefnogi'r unigolyn hwnnw i adennill ei gryfder a'i annibyniaeth ac aros gartref cyhyd ag y bo modd er mwyn osgoi cael ei dderbyn i'r ysbyty.
Cafodd Llesiant Delta ei sefydlu fel Cwmni Masnachu Awdurdodau Lleol yn 2018, a Chyngor Sir Caerfyrddin sy'n berchen arno. Mae'n defnyddio technoleg arloesol i ddarparu amrywiaeth o atebion yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol gan helpu pobl hŷn ac agored i niwed i fyw'n annibynnol yn eu cartrefi am gyfnod hirach.
Mae Gwobrau Trawsnewid Sector Cyhoeddus iESE yn gyfle i ddathlu a rhannu'r arfer mwyaf arloesol wrth drawsnewid gwasanaethau cyhoeddus lleol. Mae iESE yn sefydliad nid er elw a sefydlwyd gan awdurdodau lleol fel adnodd a rennir i drawsnewid gwasanaethau cyhoeddus a chadw profiad o fewn y sector.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Gwobrau Trawsnewid y Sector Cyhoeddus.