18 Mehefin 2025
Rhwydwaith CGGC newydd yn cryfhau cydweithredu ar draws sector gofal cymdeithasol Cymru
Mae Llesiant Delta yn falch o gael ei enwi'n Bartner Sefydlu'r Rhwydwaith Cynhadledd Genedlaethol Gofal Cymdeithasol (CGGC) sydd newydd ei lansio — menter gyffrous sy'n dod â sefydliadau ynghyd o bob cwr o Gymru i gydweithio, rhannu gwybodaeth a hyrwyddo arloesedd yn y sector gofal cymdeithasol.
Nod Rhwydwaith CGGC, dan arweiniad ADSS Cymru, yw creu llwyfan ar gyfer cysylltu a dysgu, gan alluogi aelodau i lunio dyfodol gofal drwy fewnwelediad a rennir a gweithredu ar y cyd.
Fel Partner Sefydlu, mae Llesiant Delta yn ymuno â grŵp dethol o sefydliadau sydd wedi ymrwymo i gryfhau'r sector trwy gydweithredu ystyrlon.
“Mae Llesiant Delta yn falch o fod yn Bartner Sefydlu Rhwydwaith CGGC gan ei fod yn adlewyrchu ein hymrwymiad i gydweithio ac arloesi ym maes gofal cymdeithasol," dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr Llesiant Delta, Samantha Watkins.
“Rydym yn credu, drwy weithio gyda'n gilydd â sefydliadau o'r un anian, y gallwn helpu i fynd i'r afael â'r heriau mawr sy'n wynebu'r sector a datblygu atebion ffres, ymarferol sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl. Mae hwn yn gyfle gwych i fod yn rhan o rwydwaith cryf sy'n canolbwyntio ar sbarduno newid cadarnhaol a llunio dyfodol gofal cymdeithasol yng Nghymru.”
Mae aelodaeth o Rwydwaith CGGC yn cynnig ystod o fanteision a chyfleoedd gan gynnwys:
- Gwahoddiadau i ddigwyddiad bob chwarter a chyfleoedd rhwydweithio
- Mynediad at sesiynau briffio polisi, mewnwelediadau sector, a diweddariadau strategol
- Bod yn rhan o sesiynau "Meic Agored" i rannu syniadau ac arloesedd
- Platfform cydweithredol i rannu ymarfer da a llunio blaenoriaethau'r sector
Mae cyfranogiad Llesiant Delta yn adeiladu ar ei enw da cynyddol fel arweinydd mewn Gofal trwy Gymorth Technoleg, gyda gwasanaethau fel Delta CONNECT yn trawsnewid sut mae iechyd a gofal cymdeithasol yn cael ei ddarparu ledled gorllewin Cymru.
Mae'r cwmni'n parhau i weithio'n agos gyda phartneriaid lleol a chenedlaethol i ddarparu gofal rhagweithiol, ataliol sy'n cefnogi byw'n annibynnol ac yn lleihau'r pwysau ar wasanaethau acíwt.
Bydd Llesiant Delta yn ymuno â chyd-Bartneriaid Sefydlu i rannu profiadau a helpu i lunio cyfeiriad y rhwydwaith yn y dyfodol yn nigwyddiad lansio Rhwydwaith CGGC a gynhelir yng Nghaerdydd ar 1 Gorffennaf, 2025.
I gael rhagor o wybodaeth am Rwydwaith CGGC a sut i ddod yn aelod, ewch i wefan CGGC Cymru.