Yn ôl

Tîm ymateb Llesiant Delta yn cyrraedd rownd derfynol ranbarthol Gwobrau Gofal Prydain Fawr

Mae tîm ymateb Llesiant Delta wedi cyrraedd y rownd derfynol mewn pum categori yn adran rhanbarth Cymru Gwobrau Gofal Prydain Fawr.

Mae’r gwobrau’n dathlu rhagoriaeth ar draws y sector gofal gan gydnabod gwaith staff rheng flaen fel gweithwyr gofal a rheolwyr gofal, a’r bobl hynny sydd wedi cael effaith mewn ffyrdd eraill megis hyfforddiant ac arloesi.  

Mae cyfanswm o 21 o gategorïau ar gyfer gwobrau, sy’n cynrychioli pob rhan o’r sector gofal cymdeithasol, boed yn bobl hŷn neu’n wasanaethau arbenigol, yn ofal preswyl neu’n ofal cartref. 

Mae gwasanaeth ymateb cymunedol 24-awr arloesol Llesiant Delta wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer y Wobr Tîm Gofal, Gwobr Arloeswr Gofal, Gwobr Rhoi Pobl yn Gyntaf a Gwobr Datblygu'r Gweithlu ac mae'r rheolwr ymateb Sarah Vaughan wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer y Wobr Arweinwyr Rheng Flaen. 

Mae'r tîm ymateb yn cefnogi preswylwyr yn y gymuned sydd ag anghenion gofal cartref ac anghenion eraill, gan helpu i osgoi derbyniadau i'r ysbyty a galluogi pobl i fyw'n annibynnol am gyfnod hirach. 

Mae'r tîm yn cefnogi cleifion i ddychwelyd adref o'r ysbyty drwy ddarparu gofal am gyfnod byr hyd nes y gellir cael darparwyr ailalluogi neu ddarparwyr hirdymor; ac mae'r tîm hefyd yn darparu cymorth gofal cymdeithasol brys i deuluoedd sy'n ei chael hi'n anodd gofalu am eu hanwyliaid wrth aros am asesiadau pellach, cynnydd yn y ddarpariaeth gofal neu sydd angen cymorth ychwanegol yn y tymor byr. 

Os oes unrhyw bryderon ynghylch gofal yn methu, dirywiad sydyn, argyfyngau neu bryderon ynghylch lefel y gofal sydd ei angen, bydd y tîm ymateb yn cael ei anfon i gynnig cymorth yn ystod y cyfnod hwn. Mae hyn yn helpu'r unigolyn i adennill ei gryfder a'i annibyniaeth ac aros gartref cyhyd ag y bo modd er mwyn osgoi cael ei dderbyn i'r ysbyty yn ddiangen. 

Hwn yw'r gwasanaeth cyntaf o'i fath yng Nghymru i gael ei gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru ac mae'n caniatáu i staff allu darparu'r gofal a'r cymorth angenrheidiol wrth roi sylw i gleient yn ei gartref pe bai angen hynny arno.

Cwmni Masnachu Awdurdod Lleol yw Llesiant Delta, sy'n eiddo i Gyngor Sir Caerfyrddin, ac sy'n darparu technoleg gynorthwyol a monitro rhagweithiol i gefnogi pobl hŷn a phobl agored i niwed i fyw'n fwy annibynnol.

Dywedodd y Cynghorydd Jane Tremlett, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: “Rwyf wrth fy modd bod gwasanaeth ymateb Llesiant Delta wedi cael ei gydnabod yng Ngwobrau Gofal Prydain Fawr. Mae cyrraedd y rhestr fer mewn pum categori yn dangos mor unigryw ac arloesol yw’r gwasanaeth hwn, gan helpu ein preswylwyr mwyaf agored i niwed mewn argyfwng. 

“Mae Llesiant Delta yn gweithio'n agos gyda thimau gwasanaethau cymdeithasol y cyngor a'r bwrdd iechyd i sicrhau bod anghenion gofal a chymorth parhaus trigolion yn cael eu diwallu gartref nes bod pecyn gofal ailalluogi neu hirdymor yn cael ei roi ar waith, gan helpu i atal derbyniadau diangen i’r ysbyty.

“Hoffwn longyfarch y tîm am yr enwebiad haeddiannol hwn; maen nhw’n gweithio mewn amgylchiadau anodd iawn weithiau, ond rwy’n rhyfeddu bob amser at eu hymroddiad a’u tosturi. Maen nhw bob amser yn mynd yr ail filltir dros eu cleientiaid, ac yn gwneud popeth o fewn eu gallu i helpu i wella ansawdd eu bywydau cymaint â phosibl.” 

Cynhelir y gwobrau yng Nghaerdydd ar 15 Tachwedd.