10 Mawrth 2025
Trawsnewid gofal cartref drwy arloesedd a chydweithio
Mae gwasanaethau'r Fyddin Las a CONNECT Llesiant Delta yn trawsnewid gofal cartref, yn lleihau derbyniadau i’r ysbyty ac yn sbarduno arloesedd trwy weithio mewn partneriaeth, yn ôl yr ymchwil ddiweddaraf a gynhaliwyd gan Ganolfan Technoleg Gofal Iechyd Prifysgol Abertawe.
Gyda nifer y bobl 65 oed a hŷn yng Nghymru a Lloegr yn fwy nag 11 miliwn yn 2021 ac yn debygol o godi 16% yng Nghymru erbyn 2030, mae'r galw am iechyd a gofal cymdeithasol yn cynyddu ac mae llawer o oedolion hŷn a bregus yn wynebu oedi cyn cael y gofal sydd ei angen arnynt.
Mae Llesiant Delta yn mynd i’r afael â’r mater hwn ledled De-orllewin Cymru wrth ddarparu cymorth personol a Gofal trwy gymorth Technoleg trwy ei wasanaeth CONNECT a thimau’r Fyddin Las yn yr ysbyty. Mae'r gwasanaethau hyn yn helpu pobl i adael yr ysbyty yn gynt ac yn lleihau'r tebygolrwydd o gael eu haildderbyn trwy ddarparu gofal cryf yn y gymuned.
Mae’r cwmni wedi bod yn gweithio gyda’r Ganolfan Technoleg Gofal Iechyd (HTC) i adolygu’r gwasanaethau hyn, gan ganolbwyntio’n benodol ar waith y Fyddin Las a thîm ymateb CONNECT sy’n helpu i gefnogi pobl â chwympiadau nad ydynt wedi achosi anaf.
Roedd yr arolwg yn rhoi sylw i effeithiolrwydd gwasanaeth, yn nodi rhwystrau i arloesedd ac yn argymell camau gweithredu ar gyfer gwelliant. Gyda chymorth y tîm ymchwil, nod Llesiant Delta oedd gwella strategaethau lleoli'r gweithlu, symleiddio gwasanaethau a chryfhau ei rôl o fewn y sector gofal iechyd.
Sicrhawyd grant Cyflymu Trosglwyddo Gwybodaeth i Arloesi (AKT2I) i greu cynllun prosiect clir cyn cychwyn ar y broses werthuso.
Cynhaliodd tîm ymchwil y Ganolfan Technoleg Gofal Iechyd adolygiad manwl o fodelau gofal Llesiant Delta, gan ddadansoddi data amser ymateb a dangosyddion perfformiad allweddol eraill i asesu effaith gwasanaeth. Yn ogystal, rhannodd 17 o weithwyr gofal iechyd a gofal cymdeithasol, gan gynnwys staff o Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Llesiant Delta, eu profiadau mewn cyfweliadau. Roedd y sgyrsiau hyn, a gynhaliwyd wyneb yn wyneb ac ar-lein, yn rhoi gwybodaeth werthfawr am y llwyddiant a gyflawnwyd yn ogystal â'r heriau yn y sector, megis gwella'r modd o lenwi bylchau mewn gwybodaeth rhwng darparwyr gofal iechyd a thimau gofal cymdeithasol, sicrhau bod pobl yn cael eu rhyddhau o'r ysbyty yn fwy hwylus, a lleihau'r posibilrwydd o'u haildderbyn.
Darparwyd adroddiad manwl i Llesiant Delta, gan dynnu sylw i'r canfyddiadau allweddol a'r adborth gan randdeiliaid. Mae Prifysgol Abertawe hefyd wedi creu fframwaith a arweinir gan ddata y gall Llesiant Delta ei ddefnyddio i fireinio ei wasanaethau, dyrannu adnoddau'n fwy effeithiol a bod mewn sefyllfa i ddarparu gwasanaeth ledled Cymru.
Dywedodd Sarah Vaughan, Rheolwr Gwasanaeth Ymateb Llesiant Delta: “Mae’r gwaith cydweithio rhwng Prifysgol Abertawe a Llesiant Delta wedi bod yn gyfle cadarnhaol, gan drosglwyddo gwybodaeth yn llwyddiannus. Mae'r prosiect hwn wedi annog dysgu pellach ac wedi tynnu sylw at yr angen i gydweithio yn y dyfodol. Mae wedi dangos effeithiolrwydd gwaith tîm ac ymrwymiad cyffredin i gyflawni nodau cyffredin.”
Mae'r Ganolfan Technoleg Gofal Iechyd yn dod â phartneriaid o ddiwydiant, y byd academaidd a'r GIG ynghyd o fewn y lleoliad gwyddorau bywyd a gofal iechyd i ysgogi ymchwil ac arloesi i ddatblygu, gwerthuso a defnyddio technolegau newydd. Mae'n rhan o Rwydwaith Cenedlaethol ar gyfer Arloesedd mewn Chwaraeon ac Iechyd, sef cymuned ddeinamig sydd wedi ymrwymo i hyrwyddo arloesedd mewn chwaraeon, iechyd a llesiant, sy'n cael ei ariannu gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe.
Mae'r bartneriaeth hon yn dangos sut y gall cydweithio ysgogi arloesedd, gwella'r ddarpariaeth gofal iechyd a sicrhau bod pobl sy'n agored i niwed yn cael y cymorth o safon uchel sydd ei angen arnynt.