Swyddi gweigion presennol
Cofrestrwch ar gyfer ein rhybuddion swydd a byddwn yn rhoi gwybod i chi pan fydd gennym unrhyw swyddi gwag ar gael
Swyddog Warw
Ydych chi'n unigolyn trefnus iawn gyda dawn am gadw pethau'n rhedeg yn hwylus? Ydych chi'n ymfalchïo mewn sicrhau bod systemau'n gywir, lefelau stoc yn iawn, a mannau’n ddiogel ac yn daclus? Os felly, rydym am i chi fod yn rhan o'n cenhadaeth i gefnogi pobl hŷn ac agored i niwed ar draws y gymuned.
Yn Llesiant Delta, rydym yn darparu gwasanaethau hanfodol i filoedd o bobl, gan gynnwys cymorth larwm llinell, monitro teleiechyd, a mwy. Tu ôl i'r llenni, mae ein warws yn sicrhau bod offer hanfodol yn barod, yn lân ac yn gweithio'n berffaith - a dyna le rydyn ni eich angen chi!
Dyma eich cyfle i wneud gwahaniaeth ystyrlon drwy gefnogi gwasanaethau hanfodol sy'n achub bywydau ac yn hyrwyddo annibyniaeth. Yn Llesiant Delta, byddwch yn ymuno â thîm cefnogol ac arloesol sydd ar flaen y gad o ran gwasanaethau Gofal trwy Gymorth Technoleg, gyda chyfleoedd ar gyfer hyfforddiant, datblygiad a rôl sy'n cynnig heriau newydd bob dydd.
Am ragor o wybodaeth neu i gael trafodaeth anffurfiol, cysylltwch â Joanne Davies drwy ffonio 07773 097777 neu drwy e-bostio: Joanne.Davies@deltawellbeing.org.uk
Cofrestrwch ar gyfer rhybuddion swydd
Rydym yn ehangu ein busnes yn barhaus i gefnogi'r galwadau cynyddol o fewn gofal cymdeithasol trwy ddatblygu a darparu datrysiadau a gwasanaethau iechyd arloesol wedi'u galluogi gan dechnoleg.
Mae hyn yn golygu bod gennym lawer o gyfleoedd cyffrous ar y gweill i ymuno â'n tîm.
Os ydych chi'n meddwl bod gennych chi'r sgiliau a'r profiad cywir i fod yn rhan o #TîmDelta, llenwch y ffurflen i dderbyn e-byst pan fydd swyddi gwag ar gael.