Byw'r bywyd rydych chi ei eisiau gyda Delta CONNECT
Mae Delta CONNECT yn wasanaeth teleofal a llinell bywyd gwell sy'n cael ei ariannu gan Gronfa Integreiddio Rhanbarthol Iechyd a Gofal Cymdeithasol (RIF) Llywodraeth Cymru, trwy Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gorllewin Cymru.
Y cyntaf o'i fath yng Nghymru, mae wedi trawsnewid y ffordd y mae gofal cymdeithasol yn cael ei ddarparu ar draws Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro, drwy weithredu model o hunangymorth a gofal rhagweithiol, gan ddefnyddio Gofal trwy Gymorth Technoleg (TEC), sydd wrth wraidd y prosiect, i wella llesiant a helpu pobl i aros yn annibynnol am gyfnod hirach.
Beth yw Delta CONNECT?
Mae Delta CONNECT yn canolbwyntio ar atal ac ymyrraeth gynnar trwy ddull technolegol a digidol, gan ddarparu gwasanaeth cofleidio llawn i gwsmeriaid a fydd yn nodi problemau iechyd a llesiant posibl cyn gynted â phosibl gan sicrhau bod y cymorth cywir yn cael ei ddarparu ar yr adeg gywir, a lleihau'r galw ar wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol hirdymor neu acíwt.
Mae'n cynnwys gwasanaeth ymateb arbenigol a phecynnau cymorth hyblyg wedi'u teilwra tuag at anghenion penodol unigolyn i'w helpu i fyw'n annibynnol cyhyd ag y bo modd gan ddefnyddio'r Gofal trwy Gymorth Technoleg diweddaraf.
Mae'n cynnwys:
Cynhelir asesiad llesiant i nodi pa lefel o gefnogaeth sydd ei hangen ar y cwsmer i fyw'n dda a sefydlu beth yw eu blaenoriaethau, er enghraifft, siopa bwyd, unigrwydd, rhyngweithio cymdeithasol, rheoli cyflwr iechyd.
Mae pecynnau cymorth hyblyg Gofal trwy Gymorth Technoleg (TEC) wedi'u teilwra at anghenion penodol unigolyn. Gall y rhain gynnwys llinellau bywyd â botwm coch, synwyryddion cwympo, dyfeisiau olrhain GPS, synwyryddion drws a pheiriannau meddyginiaeth i atgoffa rhywun pryd mae angen cymryd meddyginiaeth. Ac heyfd offer defnyddiol arall, gan ddarparu tawelwch meddwl i unigolion a'u hanwyliaid a hynny 24/7 am 365 diwrnod y flwyddyn.
Cynhelir galwadau llesiant rheolaidd i gefnogi anghenion lles a llesiant. Gallai'r galwadau hyn fod yn wythnosol, yn fisol neu'n chwarterol, yn dibynnu ar anghenion penodol.
Cefnogi argyfyngau anfeddygol fel codymau nad ydynt wedi achosi anaf ac anghenion llesiant. Mae'r tîm ymateb ar gael 24/7 ac yn rhoi'r sicrwydd i gwsmeriaid a'u teuluoedd fod cymorth ar gael bob amser os bydd ei angen arnynt.
Gallwn eich helpu i gymryd rhan mewn gweithgareddau sy'n bwysig i'ch llesiant, er enghraifft, nodi a darparu cymorth i fynychu grwpiau cymunedol o ddiddordeb fel grwpiau garddio neu ddawnsio ac ati neu drwy gysylltu ag unigolion o'r un meddylfryd. Gallwn hefyd eich cefnogi i gadw mewn cysylltiad â theulu a ffrindiau gan helpu gydag unigrwydd ac arwahanrwydd.
Cysylltu â ni
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag un o'n hymgynghorwyr cyfeillgar drwy ffonio 0300 333 2222 neu drwy gwblhau ein ffurflen atgyfeirio. Gallai hyn fod yn hunanatgyfeiriad, drwy aelod o'r teulu neu drwy weithiwr gofal cymdeithasol neu weithiwr iechyd proffesiynol.
Newyddion diweddaraf
News
Llesiant Delta yn ennill gwobr arloesedd gofal cymdeithasol uchel ei bri
News
Canmol Llesiant Delta am ei ymrwymiad i ddarparu gwasanaethau diogel ac arloesol yn yr archwiliad TEC diweddaraf
News
Llesiant Delta yn ennill dwy wobr a chanmoliaeth yng Ngwobrau Gofal Prydain - rhanbarth Cymru
News
Llesiant Delta ar y rhestr fer ar gyfer dwy wobr genedlaethol
Astudiaethau achos diweddaraf
Case Study
Astudiaeth Achos: Mae llinell gymorth Delta CONNECT yn achub preswylydd rhag anaf difrifol
Case Study
Astudiaeth Achos: Gweithio gyda'r gwasanaethau brys i helpu preswylwyr i gadw'n ddiogel gartref a lleihau'r pwysau ar y gwasanaeth ambiwlans
Case Study
Astudiaeth achos: Tîm ymateb yn helpu i leddfu'r pwysau ar Wasanaethau Ambiwlans Cymru
Case Study
Alun
Blogs diweddaraf
Blog
Cefnogi ein gofalwyr di-dâl: Diwrnod Hawliau Gofalwyr 2024
Blog
Llesiant Delta: cefnogi teuluoedd sy'n cael eu heffeithio gan Alzheimer's
Blog
Delta CONNECT: helpu i leihau'r risg ac effaith cwympiadau
Blog