14 Mehefin 2024
Brwydro yn erbyn unigrwydd: sut y gall Llesiant Delta wneud gwahaniaeth
Gall unigrwydd effeithio ar unrhyw un ar unrhyw adeg, gan gynnwys pobl o bob oedran a chefndir. Mae'n bwysig gwybod nad ydych chi ar eich pen eich hun.
Mae Wythnos Ymwybyddiaeth Unigrwydd 2024 yn gyfle i dynnu sylw at effaith unigrwydd ac atgoffa pawb bod adnoddau ar gael i helpu. Yn Llesiant Delta, rydym wedi ymrwymo i'ch cefnogi chi a'ch lles. Fel rhan o'n pecyn Delta CONNET, rydym yn cynnig ystod o wasanaethau cefnogol i helpu i fynd i'r afael ag unigrwydd a hyrwyddo cysylltiad cymdeithasol.
Galwadau lles rheolaidd
Un o'r ffyrdd allweddol rydyn ni'n cefnogi unigolion yw drwy ein galwadau lles rhagweithiol wedi'u personoli. Nid galwadau arferol yn unig yw'r galwadau hyn, maent wedi'u teilwra i ddiwallu anghenion penodol pob unigolyn a gellir eu trefnu'n wythnosol, yn fisol, neu'n chwarterol. Mae ein tîm rhagweithiol yma i wirio i mewn i chi, darparu cefnogaeth, a sicrhau bod eich lles bob amser yn flaenoriaeth.
Cymryd rhan mewn gweithgareddau ystyrlon
Mae cadw'n heini a chymryd rhan mewn gweithgareddau rydych chi'n eu caru yn bwysig i'ch iechyd meddwl ac emosiynol. Gallwn eich helpu i ddod o hyd i grwpiau cymunedol sydd o ddiddordeb i chi, boed yn arddio, dawnsio neu unrhyw hobi arall. Ein nod yw eich cysylltu ag unigolion o'r un anian a darparu'r gefnogaeth sydd ei hangen arnoch i ymuno â'r grwpiau hyn a mwynhau eich diddordebau.
Cadw mewn cysylltiad â theulu a ffrindiau
Mae cynnal perthnasoedd cryf â theulu a ffrindiau yn bwysig nid yn unig i frwydro yn erbyn unigrwydd. Gallwn gynnig cefnogaeth i'ch helpu i gadw mewn cysylltiad â'ch anwyliaid. P'un a oes angen cymorth arnoch gyda thechnoleg i gadw mewn cysylltiad neu ddim ond ychydig o anogaeth i estyn allan, rydym yma i helpu.
Mae Delta Connect wedi'i gynllunio i fod yn system gefnogaeth gynhwysfawr i chi. O alwadau lles rheolaidd i'ch helpu i gymryd rhan mewn gweithgareddau a chadw mewn cysylltiad â'ch anwyliaid, ein nod yw mynd i'r afael â phob agwedd ar eich lles. Yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Unigrwydd 2024, a phob wythnos, cofiwch ein bod yma i chi.
Am fwy o wybodaeth ar sut y gall Llesiant Delta eich helpu, siaradwch ag un o'n cynghorwyr cymwys.
Gallwn oresgyn unigrwydd ac adeiladu cymuned gryfach, fwy cysylltiedig.