Yn ôl

Cefnogi ein trigolion bregus y Calan Gaeaf hwn

I lawer o bobl, mae Calan Gaeaf yn noson o hwyl a chwerthin, ond i rai unigolion hŷn a bregus, gall fod yn gyfnod o bryder ac ofn.

Rydym yn cefnogi Ymgyrch Bang, ymgyrch dan arweiniad yr heddlu sy'n helpu ein cymunedau i fwynhau'r dathliadau'n ddiogel ac yn atgoffa pawb i feddwl am eraill ac ystyried sut y gall eu hymddygiad achosi braw neu ofid.

Dyma rai awgrymiadau i helpu pawb i fwynhau Calan Gaeaf yn gyfforddus ac yn ddiogel.

Sut i gadw'n ddiogel yn y gartref yn ystod Calan Gaeaf

Diogelu eich cartref: 

  • Os nad ydych chi eisiau unrhyw alwadau, gwnewch yn siŵr bod eich drysau a'ch ffenestri wedi'u cloi am ddiogelwch ychwanegol.
  • Cloi eich drws gydag eich drws cadwyn ac edrychwch allan y ffenestr i weld pwy sydd yno cyn agor y drws.
  • Gallwch wneud galwad prawf os oes gennych synwyryddion drws yn eich cartref, i sicrhau eu bod yn gweithio.

Byddwch yn ofalus gydag addurniadau: 

  • Trefnu addurniadau i atal peryglon baglu a chadw llwybrau cerdded yn glir.
  • Osgoi defnyddio addurniadau a allai rwystro drysau.
  • Os bydd anwylyd gwymp nad yw'n niweidiol a'ch bod angen cymorth, pwyswch eich llinell fywyd a threfnir help.

Osgoi rhyngweithio diethriaid: 

  • Os ydych chi ar eich pen eich hun yn eich cartref, ceisiwch osgoi agor y drysau i ddieithriaid.
  • Os bydd rhywun yn eich gwneud yn anghyfforddus, caewch y drws a ffoniwch rywun rydych chi'n ymddiried ynddo. 
  • Ystyriwch arddangos arwydd 'dim tric-neu drin', er mwyn rhoi gwybod i bobl nad ydych chi eisiau ymwelwyr.

Os ydych chi'n fas tric-neu-trin

Byddwch yn barchus:

  • Ymdrin ag unigolion oedrannus gyda pharch adealltwriaeth.
  • Effallai na fydd rhai pobl eisiau cymryd rhan mewn dathliadau Calan Gaeaf, ac mae’n bwysig parchu eu dewisiadau. 

Osgoi pranks brawychus: 

  • Osgoi cymryd rhan mewn pranks neu weithredoedd a allai godi ofn ar bobl hŷn neu sy’n codi ofn arnynt. Dylai Calan Gaeaf fod yn brofiad pleserus a hwyliog i bawb. 

Byddwch yn amyneddgar ac yn ddeallus: 

  • Deall y gallai rhai pobl hŷn gymryd mwy o amser i gymryd rhan neu efallai bod cyfyngiadau arnynt. Byddwch yn amyneddgar, yn deal ac yn darparu ar gyfer eu hanghenion.

I ddysgu mwy am sut gall Llesiant Delta eich cefnogi chi a'ch anwyliaid, cysylltwch â ni ar 0300 333 2222. Mae ein gwasanaeth Delta CONNECT ar gael i drigolion Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin a Cheredigion, ac ar hyn o bryd mae'n RHAD AC AM DDIM am y tri mis cyntaf (telerau ac amodau'n berthnasol).