22 Ebrill 2024
Paratowch ar gyfer y Gwanwyn gyda Delta Unrhyw Le
Mae'r Gwanwyn yn dymor sy'n golygu dechreuadau newydd, i gamu allan a mwynhau'r awyr iach wrth gofleidio harddwch natur. I rai, mae'n gyfle i ailgysylltu â'r awyr agored trwy arddio, cerdded, neu fwynhau'r heulwen.
Mae ymchwil yn dangos bod treulio amser ym myd natur o fudd sylweddol i iechyd corfforol a meddyliol, o leihau straen a phryder i wella hwyliau a lles cyffredinol.
Syniadau i helpu i hybu eich lles meddyliol:
-
Ymlacio a lleihau straen
-
Cymerwch seibiant os oes angen i chi
-
Wneud rhywbeth rydych yn ei fwynhau
-
Canolbwyntio ar y presennol
-
Gwnewch becyn hunanofal
-
Darganfod ffyrdd o ddysgu a bod yn greadigol
-
Treuliwch amser ym myd natur
-
Treuliwch amser gydag anifeiliaid
Syniadau i helpu i hybu eich lles corfforol:
-
Yfwch ddŵr yn rheolaidd
-
Meddyliwch am yr hyn rydych chi'n ei fwyta
-
Ceisiwch gadw'n heini
-
Ceisiwch wella'ch cwsg
-
Sefydlwch drefn
Ceisiwch wneud eich amgylchedd cysgu'n gyfforddus
Mae'r holl awgrymiadau hyn a mwy o wybodaeth ar sut i wella'ch iechyd meddwl a chorfforol ar gael i chi eu darllen ar wefan Mind.
Wrth i ni groesawu'r Gwanwyn, mae hefyd yn bwysig blaenoriaethu ein diogelwch a thawelwch meddwl gyda Delta Unrhyw le, gallwch chi ei gyflawni trwy wasgu botwm, ni waeth ble rydych chi.
Mae Llesiant Delta yn cynnig ystod o wasanaethau i gefnogi eich iechyd a lles, gan gynnwys larymau personol, teleofal, a thechnoleg gynorthwyol. Gyda monitro 24/7, gallwch fod yn dawel eich meddwl mai dim ond galwad i ffwrdd yw cymorth bob amser. Rydym yma i chi 365 diwrnod y flwyddyn, bob amser yn ddibynadwy ac yn barod i gynorthwyo mewn argyfwng.
Mae Delta Unrhyw Le yn mynd â phethau ymhellach trwy ddarparu cefnogaeth wrth fynd gyda GPS adeiledig a synhwyrydd cwympo. P'un a ydych allan am dro, yn mynd ar negeseuon, neu'n mwynhau'r awyr iach, gall Delta Unrhyw Le roi sicrwydd i chi drwy roi gwybod i'n canolfan fonitro os oes angen cymorth arnoch.
Mae ein larwm Delta Unrhyw Le ar gael fel rhan o'n pecyn Delta CONNECT sy'n darparu pecynnau Gofal trwyi Gymorth Technoleg hyblyg wedi'u teilwra tuag at anghenion penodol unigol. Mae'n cynnwys larymau cymorth, synwyryddion cwympo, dyfeisiau olrhain GPS, synwyryddion drws, peiriannau dosbarthu meddyginiaeth ac offer defnyddiol arall ar gyfer monitro a chymorth o gwmpas y cloc.
Byddwch hefyd yn cael mynediad at ein tîm ymateb cymunedol 24/7 i gefnogi argyfyngau anfeddygol megis codymau anafus ac anghenion lles.
Byddwn yn cynnal asesiad llesiant pan fyddwch yn cofrestru i sefydlu pa lefel o gymorth sydd ei angen arnoch; a byddwch yn derbyn galwadau lles rhagweithiol rheolaidd a chymorth arall i'ch helpu i gymryd rhan mewn gweithgareddau sy'n bwysig i'ch lles.
Mae cofrestru yn hawdd a gallwch fwynhau'r rhyddid i fyw ar eich telerau, gan wybod bod gennych y gefnogaeth pan fo angen. Mae'n ymwneud â'ch grymuso i fyw bywyd heb boeni, gan eich rhoi mewn rheolaeth o'ch lles.
Felly beth am gymryd y cam cyntaf tuag at wanwyn di-bryder a chofrestru heddiw? Rydyn ni yma i'ch helpu chi i fwynhau bywyd i'r eithaf gyda thawelwch meddwl ar flaenau eich bysedd.
Cofrestrwch ar-lein neu ffoniwch ein tîm cyfeillgar ar 0300 333 2222. Mae Delta CONNECT ar gael i drigolion sy'n byw yn Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro a Cheredigion.