Yn ôl

Gall Llesiant Delta eich helpu chi a'ch anwyliaid i gadw'n ddiogel y gaeaf hwn gyda chymorth 24 awr trwy gyffwrdd botwm.

P'un a ydych chi'n ffrind, yn aelod o'r teulu neu'n ofalwr sy'n pryderu am iechyd a llesiant rhywun, gall Llesiant Delta helpu i roi tawelwch meddwl i chi gyda larwm llinell gymorth.

Gall ein datrysiadau gael eu defnyddio gan bobl o unrhyw oedran, p'un a ydynt yn byw gyda chyflwr meddygol neu anabledd, yn hŷn neu mewn perygl o gael codwm, neu anwylyd a fyddai'n elwa o gymorth bob awr o'r dydd a'r nos.

Os yw eich anwylyd yn teimlo'n sâl, yn cael codwm neu os oes angen cymorth arall arno, gall wasgu'r y botwm ar naill ai band arddwrn neu larwm gwddf, neu bydd synhwyrydd yn gwybod eu bod wedi disgyn, gan seinio'r larwm.

Mae hyn yn rhybuddio aelod o'r tîm monitro, a fydd yn helpu drwy asesu'r sefyllfa a chymryd camau priodol, megis cysylltu ag aelod o'r teulu, neu'r gwasanaethau brys. Bydd yr ymgynghorwyr llesiant bob amser yn aros ar y llinell hyd nes bod cymorth wedi'i drefnu.

Mae gan Llesiant Delta ystod o gynlluniau hyblyg a fforddiadwy, yn ogystal â phecynnau cymorth pwrpasol, sy'n dechrau o £16.25 y mis. Gellir cysylltu llawer o gynnyrch â pherson yn hytrach na'r ganolfan fonitro fel y gellir anfon neges at rywun sydd gerllaw. Gallwch ddewis pa opsiwn sydd fwyaf addas at eich anghenion.

Gall preswylwyr sy'n byw yn Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro a Cheredigion gofrestru ar gyfer gwasanaeth cymorth cofleidiol ychwanegol – Delta CONNECT - sydd ar hyn o bryd am ddim tan fis Mawrth 2023*.

Dywedodd David Rees, a drefnodd i'w dad gael llinell gymorth:

 

“Rwyf am ddiolch i chi am y larwm brys a roddwyd i'm tad dros y mis diwethaf. Gwnaeth ei gyflwr ddirywio'n gyflym a heb y llinell gymorth, byddai wedi bod mewn trafferth ddifrifol.”

 

Mae gan nain gwraig Anthony Morgan linell bywyd, a soniodd am ba mor ddiolchgar oedden nhw am y gwasanaeth pan gafodd hi godwm gartref.

Dywedodd: “Roeddem am ddweud diolch am y ffordd bleserus ac effeithlon iawn yr ymdriniwyd â'r alwad. Roeddem yn gallu mynychu o fewn 15 munud i'w chodi oddi ar y llawr a delio gyda briw ar ei braich sydd wedi'i rwymo ac yn gwella. Roeddem hefyd yn hapus iawn bod yr ymgynghorydd a atebodd yr alwad wedi dod yn ôl ati ar ôl siarad â ni i roi gwybod iddi fod rhywun ar y ffordd i'w helpu. Mae'n anodd iawn fel arfer i'w pherswadio i ddefnyddio'r larwm gwddf gan ei bod yn meddwl ei bod hi'n achosi ffys a niwsans felly, bydd profiad braf fel hyn yn mynd yn bell tuag at ei hannog i wneud hynny eto.”

Mae Llesiant Delta yn Gwmni Masnachu Awdurdod Lleol sy’n eiddo i Gyngor Sir Caerfyrddin, ac mae ganddo ystod o offer gofal trwy gymorth technoleg a all helpu i'w gwneud yn haws gofalu am rywun arall, ac atebion sy'n gweithio'r tu fewn i'r cartref a'r tu allan i'r cartref.

Y brif nod yw cefnogi pobl hŷn ac agored i niwed i fyw'n annibynnol yn eu cartrefi am gyfnod hirach.

Mae'r gwasanaeth llinell gymorth ar gael i bobl ledled Cymru a'r DU**. Mae canolfan fonitro frys Llesiant Delta ar agor saith niwrnod yr wythnos, 365 diwrnod o'r flwyddyn.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i'r tudalen siop neu ffoniwch un o ymgynghorwyr y cwmni sydd wedi cael hyfforddiant arbennig ar 0300 333 2222.

* Mae taliadau misol yn berthnasol yn dilyn y cyfnod hwn os ydych yn dymuno parhau.
**Mae hyn yn cynnwys monitro galwadau a hunan-osod.