Yn ôl

Llesiant Delta yn ennill gwobr arloesedd gofal cymdeithasol uchel ei bri

Mae Llesiant Delta wedi ennill Gwobr Arloesi Gofal Cymdeithasol trwy Gydweithio yng Ngwobrau Arloesi MediWales 2024.

Mae'r wobr yn cydnabod gwasanaeth arloesol CONNECT y cwmni, sydd wedi trawsnewid darpariaeth iechyd a gofal cymdeithasol ar draws gorllewin Cymru.

Ariennir y gwasanaeth CONNECT gan Gronfa Integreiddio Rhanbarthol Iechyd a Gofal Cymdeithasol Llywodraeth Cymru, drwy Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gorllewin Cymru, mewn partneriaeth â Chynghorau Sir Caerfyrddin a Sir Benfro a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

Mae CONNECT wedi dangos llwyddiant ysgubol wrth ddarparu gofal rhagweithiol wedi'i alluogi gan dechnoleg sy'n cefnogi unigolion i aros yn ddiogel gartref, lleihau nifer y derbyniadau i'r ysbyty a lleddfu'r pwysau ar wasanaethau meddygol brys a'r sector iechyd a gofal cymdeithasol lleol.

Trwy ei ddull arloesol, mae CONNECT wedi atal derbyniadau diangen i'r ysbyty, gan arbed 3,626 o ddiwrnodau gwely ysbyty a chynhyrchu £1,648,380 mewn arbedion cost ers mis Rhagfyr 2021. Cafodd cleifion eu rhyddhau o'r ysbyty bum niwrnod ar gyfartaledd yn gynharach a dim ond 6% gafodd eu symud i'r gwasanaethau brys. Dywedodd mwy nag 80% o ddefnyddwyr gwasanaeth eu bod yn gwella neu'n cael eu cynnal, gyda llawer yn teimlo'n llai ynysig.

Mae Llesiant Delta yn Gwmni Masnachu Awdurdodau Lleol sy'n eiddo i Gyngor Sir Caerfyrddin, sy'n arbenigo mewn technoleg gynorthwyol, monitro rhagweithiol a gwasanaeth ymateb i gefnogi byw'n annibynnol i unigolion hŷn a bregus.

Dywedodd y Cynghorydd Jane Tremlett, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: "Mae'r wobr hon yn dilysu ein hymrwymiad i ofal arloesol sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn. Mae'r gwasanaeth CONNECT yn profi y gallwn, trwy drosoli technoleg a phartneriaethau cydweithredol, wella canlyniadau i bobl hŷn a bregus yn ddramatig wrth greu atebion gofal iechyd mwy effeithlon."

Cyhoeddwyd yr enillwyr mewn seremoni wobrwyo arbennig yng Ngwesty Mercure Holland House yng Nghaerdydd lle daeth aelodau'r diwydiant, y byd academaidd a staff iechyd a gofal cymdeithasol ynghyd i ddathlu cyflawniadau anhygoel y sector Gwyddorau Bywyd yng Nghymru.

Gwobrau Arloesi MediWales 2024 - Gwobr Arloesi Gofal Cymdeithasol trwy Gydweithio