Yn ôl

Cadwch eich anwyliaid yn ddiogel y gaeaf hwn a rhowch yr anrheg orau y Nadolig hwn - llinell bywyd.

P'un a ydych chi'n ffrind, yn aelod o'r teulu neu'n ofalwr sy'n poeni am iechyd a llesiant rhywun, gall Llesiant Delta helpu i roi tawelwch meddwl i chi drwy gymorth 24 awr trwy wasgu botwm.

Y larwm llinell bywyd yw un o atebion iechyd a gofal mwyaf poblogaidd Llesiant Delta, gan ganiatáu i alwadau lle nad oes angen defnyddio dwylo gael eu gwneud i'n canolfan fonitro frys, sydd ar agor saith diwrnod yr wythnos, 365 diwrnod y flwyddyn.

Os yw eich anwylyd yn teimlo'n sâl, yn cwympo neu os oes angen cymorth arall arno, mae'n gallu cyffwrdd botwm ar fand arddwrn neu seinio'r larwm gwddf. 

Mae hyn yn rhybuddio aelod o'r tîm monitro, a fydd yn helpu drwy asesu'r sefyllfa a chymryd camau priodol, megis cysylltu ag aelod o'r teulu, neu'r gwasanaethau brys. Bydd yr ymgynghorwyr llesiant bob amser yn aros ar y llinell hyd nes bod cymorth wedi'i drefnu.  

Mae gan Llesiant Delta ystod o gynlluniau hyblyg a fforddiadwy, yn ogystal â phecynnau cymorth pwrpasol, sy'n dechrau o £5.69 y mis yn unig. Gellir cysylltu llawer o gynnyrch â pherson yn hytrach na'r ganolfan fonitro fel y gellir anfon neges at rywun sydd gerllaw. Gallwch ddewis pa opsiwn sydd fwyaf addas at eich anghenion.

Dywedodd merch, a oedd wedi trefnu bod llinell bywyd yn cael ei gosod ar gyfer ei mam:

 

“Diolch yn fawr iawn i Gwyn am osod larwm llinell bywyd fy mam. Roedd hi'n amharod i gael y larwm a'r bocs allwedd wedi'u gosod i ddechrau, ond gyda charedigrwydd ac amynedd Gwyn cytunodd yn y diwedd. Rydyn ni wrth ein boddau â'r gwasanaeth ac alla' i ddim diolch digon i Gwyn."

 

Mae cwsmer arall wedi canmol y gwasanaeth a gafodd gan staff: “Roedd Lisa yn gwbl broffesiynol ac esboniodd yn llawn y larwm llinell bywyd, y broses osod, cymerodd yr holl fanylion angenrheidiol, a deallodd fy anghenion. Gwyn oedd wedi gosod y llinell bywyd ac unwaith eto roedd yn wych yn egluro'n drylwyr yr offer a sut i'w ddefnyddio gan ganolbwyntio ar fy anghenion penodol.

"Rwy'n hynod o blês gyda sut oedd Lisa a Gwyn wedi gwneud y broses gyfan mor hawdd a'r ffordd yr oedden nhw wedi delio â mi a pha mor gyflym mae'r larwm wedi cael ei osod. Rwy'n falch iawn bod gen i'r llinell bywyd oherwydd fy anabledd yn ogystal â phroblemau iechyd parhaus eraill."

Mae Llesiant Delta yn Gwmni Masnachu Awdurdod Lleol sy’n eiddo i Gyngor Sir Caerfyrddin, ac mae ganddo ystod o offer gofal trwy gymorth technoleg a all helpu i'w gwneud yn haws gofalu am rywun arall, ac atebion sy'n gweithio'r tu fewn i'r cartref a'r tu allan i'r cartref.

Ei brif nod yw helpu pobl hŷn ac agored i niwed i fyw'n annibynnol yn eu cartrefi am gyfnod hwy.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i'r tudalen siop neu ffoniwch un o ymgynghorwyr y cwmni sydd wedi cael hyfforddiant arbennig ar 0300 333 2222.